2 Chronicles 17

Jehosaffat yn frenin Jwda

1Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, ac aeth ati i gryfhau'r deyrnas iddi allu gwrthsefyll Israel. 2Rhoddodd filwyr yn y trefi amddiffynnol a gosod garsiynau drwy wlad Jwda i gyd, ac yn y trefi roedd Asa ei dad wedi ei hennill oddi ar Effraim.

3Roedd yr Arglwydd gyda Jehosaffat am ei fod, ar ddechrau ei deyrnasiad, yn dilyn ffyrdd ei hynafiad Dafydd. Doedd e ddim yn addoli duwiau Baal. 4Roedd yn addoli Duw ei hynafiaid ac yn cadw ei orchmynion, yn wahanol i bobl Israel. 5Felly dyma'r Arglwydd yn gwneud ei deyrnas yn gadarn. Roedd pobl Jwda i gyd yn dod ag anrhegion i Jehosaffat, a daeth yn gyfoethog iawn, ac roedd parch mawr ato. 6Roedd yn benderfynol o ddilyn yr Arglwydd a chael gwared â'r holl allorau lleol a polion y dduwies Ashera o Jwda.

7Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma Jehosaffat yn anfon pump o'i swyddogion allan i drefi Jwda i ddysgu'r bobl am Gyfraith Duw. Enwau'r pump oedd Ben-chaïl, Obadeia, Sechareia, Nethanel a Michaia. 8Ac roedd naw o Lefiaid yn eu helpu, sef Shemaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Shemiramoth, Jonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia. Roedd Elishama a Joram yr offeiriaid gyda nhw hefyd. 9Buon nhw'n teithio o gwmpas trefi Jwda i gyd yn dysgu'r bobl o Lyfr Cyfraith yr Arglwydd.

10Roedd yr Arglwydd wedi codi ofn ar y gwledydd o gwmpas Jwda, a doedd neb am fynd i ryfel yn erbyn Jehosaffat. 11Dyma rai o'r Philistiaid yn dod ag anrhegion a llwyth o arian i Jehosaffat, i dalu teyrnged iddo fel brenin. Daeth yr Arabiaid ag anifeiliaid iddo: 7,700 o hyrddod a 7,700 o fychod geifr. 12Roedd Jehosaffat yn fwy a mwy pwerus, ac adeiladodd gaerau a chanolfannau storio yn Jwda. 13Roedd ganddo lot fawr wedi ei gadw yn y canolfannau hynny, a byddin o filwyr profiadol yn Jerwsalem. 14Roedd y rhain wedi eu rhannu yn ôl eu llwythau fel hyn:

Capteiniaid ar unedau o fil o Jwda:
Adna – yn gapten ar dri chan mil o filwyr profiadol, dewr.
15Yna Iehochanan – yn gapten ar ddau gant wyth deg o filoedd.
16Yna Amaseia fab Sichri (oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu yr Arglwydd) – roedd dau gan mil o filwyr profiadol, dewr gydag e.
17Wedyn o lwyth Benjamin:
Eliada, oedd yn filwr profiadol a dewr. Roedd dau gan mil o filwyr gydag e yn cario bwasaeth a tharian.
18Yna Iehosafad – gyda cant wyth deg o filoedd o filwyr arfog.

19Roedd y rhain i gyd yn gwasanaethu'r brenin, heb sôn am y rhai oedd wedi eu gosod yn y caerau amddiffynnol ar hyd a lled Jwda.

Copyright information for CYM